SL(5)188 - Cod Ymarfer ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â Rhan 6 (plant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Yn cynnwys plant a phobl ifanc sy’n gadael gofal neu sydd wedi gadael gofal.
Cefndir a Phwrpas
Cyhoeddir y cod ymarfer hwn o dan adran 145 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (y "Ddeddf").
Amcan y cod hwn yw cyflwyno cyfrifoldebau awdurdodau lleol o dan y Ddeddf ar gyfer:
· cynlluniau gofal a chymorth mewn perthynas â phlant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal, gan gynnwys addysg ac iechyd;
· sut y dylid lletya a chynnal plant sy’n derbyn gofal, gan gynnwys lleoliadau plant sy’n derbyn gofal;
· cyswllt ac ymweliadau â phlant sy’n derbyn gofal a phlant a arferai dderbyn gofal, gan gynnwys ymwelwyr annibynnol;
· trefniadau ar gyfer gadael gofal, cynghorwyr personol, cynlluniau ac asesiadau llwybrau, llety addas a chymorth ar gyfer addysg uwch;
· llety diogel;
· plant sy’n cael eu lletya mewn mathau eraill o sefydliadau (gan awdurdodau iechyd ac addysg, neu mewn cartrefi gofal neu ysbytai annibynnol).
Gweithdrefn
Rhaid gosod drafft o’r cod gerbron y Cynulliad. Os, o fewn 40 diwrnod (heb gynnwys unrhyw amser pan fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ei ddiddymu neu pan fydd ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) o osod y drafft, bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo’r drafft, ni chaniateir i Weinidogion Cymru ddyroddi’r cod.
Os na wneir penderfyniad o’r fath cyn diwedd y cyfnod hwnnw, rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi’r cod (neu’r cod diwygiedig) ar ffurf y drafft, a daw’r cod (neu’r cod diwygiedig) i rym ar y dyddiad a bennir drwy orchymyn Gweinidogion Cymru.
Craffu o dan Reol Sefydlog 21.7
Nodwyd un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.7 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Mae’r Pwyllgor yn croesawi eglurder y cod ynghylch pethau’n mae’n “rhaid” eu gwneud a phethau y “dylai” eu gwneud, a sut mae cyflwyniad y cod yn egluro o’r cychwyn cyntaf y gwahaniaeth rhwng y defnydd o “rhaid” a “dylai” yn y cod.
Ymateb y Llywodraeth
Nid oes angen ymateb gan y llywodraeth.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
9 Chwefror 2018